Llio eurwallt lliw arian, llewychu mae fal lluwch mân. Mae ar ei phen, seren serch, lliw rhuddaur, Llio Rhydderch. Ni bu ar wŷdd, un bêr iach, afal Anna felynach. Mewn moled aur a melyn mae'n un lliw â'r maen yn Llŷn. Ar iad Llio rhoed llyweth a noblau aur yn y bleth. Gwnaed o'r bleth ganbleth i'w gwau, tair brwynen tua'r bronnau. Ac na fynned gwen fanwallt gribau gwŷdd i gribo'i gwallt; dycer i wen er deg grod gribau esgyrn geirw bysgod. Mae ar ei phen, mor hoff yw, mawr fanwallt Mair o Fynyw. Mae'r un wallt, mal am war Non, ar fronnau'r môr forynion. Mihangel sy walltfelyn, ac un wallt ag ef yw 'nyn. On'd un lliw y fantell hon â chawgiau y marchogion? Mal efydd, mil a ofyn `Ai mellt nef?' am wallt fy nyn; `Ai plisg y gneuen wisgi? Ai dellt aur yw dy wallt di?' Llwyn aur neu ddau i'r llan a ddoeth, llwyn banadl, Llio'n bennoeth. Llen gêl a fo ei llwyn gwallt am ein gwarrau mewn gorallt. Dwy did lle y dodid awdl, dau dasel hyd ei dwysawdl; y mae'r ddwydid o sidan am Lio'n glog melyn glân, ac mae'n debyg mewn deubeth i flaen fflam felen ei phleth. Llwyn pen lle ceid llinyn parch, Padreuau y padrïarch. Ar iad bun erioed y bu wisg i allel asgellu. Crwybr o aur ban i cribai, pwn mawr o esgyll paun Mai, yn ail cyrs neu wiail caets, fal aur neu afal oraets. Mawr y twf, mae ar iad hon mil o winwydd melynion. Unlliw ei gwallt, yn lle gwir, â chwyr aberth o chribir. Mae'r gwallt mwya' ar a gaid am ei gwar fal mwg euraid. Ni ad Duw gwyn (nid du ei gwallt) farw Llio frialluwallt.
Blin yw hyder o weryd, Hudol byr yw hoedl y byd. Caru dyn ifanc irwen A marw a wnaeth morwyn wen. Dan weryd mae dyn wirion, Anhap oedd roi wyneb hon. O daearwyd ei deurudd Mae'n llai'r gwrid mewn llawer grudd. Och imi, pe marw chwemwy, O bydd ei math mewn bedd mwy. Och Dduw Tad, o chuddiwyd hi, Nad oeddwn amdo iddi! Och finnau, o chaf einioes, I'w rhoi yn fud, arhown f'oes. Gweddw am hon yn y bronnydd Ydyw'r gog a'r bedw a'r gwŷdd, A cherdd bronfraith orchuddiwyd Is y lan, ac eos lwyd. Os marw yw hon îs Conwy, Ni ddyly Mai ddeilio mwy; Gwae finnau, nid gwiw f'annerch, Os mewn bedd mae annedd merch. Gwywon yw'r bedw a'r gwïail Ac weithian ni ddygan ddail. Os marw fis Mai y forwyn, Och Fair, gan farw y ferch fwyn! Och 'y nun, na chaem ninnau Yr un dydd farw ein dau! Ni fynnwn yn hwy f'einioes, Gan na chaid amgenach oes. Och, yn awr na chawn orwedd Gyda bun dan gaead bedd. Adyn ar ei hôl ydwyf, Uwch ben Gwen ych bannog wyf. Marw a wnaeth yn fy marn i Yr haul wen a'r haelioni. Anwych wyf oni chyfyd O farw bun yn fyw i'r byd. Ni welir dan bryd dirwy Ar heol merch mor hael mwy. Nid ydoedd, pan oedd yn iach Dan aelwineu dyn lanach. Lasar a godes Iesu Yn fyw o'r bedd, yn farw bu. Gwnaed Duw, am ddyn gannaid hir, A minnau, godi meinir. Dulas ydwyf fal deilen O frig yw am farw Gwen. Hon fo'r wythfed ddiledryw Bun fain a wnel Beuno'n fyw.
Dyn wyf yn ceredded y nos, (dedwyddach oedd dŷ diddos) dyn hurt am gerdded yn hwyr, dros hyn Duw a ro synnwyr. Du arnaf ydyw oernos, Duw, dy nawdd, dued y nos! Dyn ni bu, a’r dyno bac dan bared, wyneb oerach. Deffro fun, differ f’enaid, dyn Duw blin sy dan dy blaid. Dyro, ti a gai deirhan, dy wisg, dy gardod i wan, dy lety, dy law ataf, dy deg gorff, dywed a’i caf. Dy fwyn air er dy fonedd, dy fin fal diod o fedd. Dy faeth, dy gellwair, dy fodd, dy feinael a’m difwynodd. Dy laeswallt fal dy lusael, dy drem fal dued yr ael; dy bryd fal dillad briodyr, du a gwyn i hudo gwŷr; dy wyneb fal od unnos, dy wrid fal bagad a ros. Dy garu di a gerais, dy gas im nis dygai Sais. Dig wyfyn arwain dy gerdd dan fargod yn ofergerdd; drwy ffenestr dyro ffunen dy gam hael i doi fy mhen. Dy gerdd ymhob gwlad a gaf, dy bwyth nis diobeithiaf. Dy garu i’m digio ‘rwy; dismel wyd, dismel ydwy. Digon caead yw d’ogylch, dyn deg wyt, nawdd Dwu’n dy gylch! dig wy yn arwain dy gân; dygum gas, dwg im gusan. Dy gyngor rhag dig angen da fydd ei gael, dy fodd, Gwen.
Rho Duw gal, rhaid yw gwyliaw arnad a llygad a llaw am hyn o hawl, pawl pensyth, yn amgenach bellach byth; rhwyd adain cont, rhaid ydiw rhag cwyn rhoi ffrwyn yn dy ffriw i'th atal fal na'th dditier eilwaith, clyw anobaith cler. Casaf rholbren wyd gennyf, corn cod, na chyfod na chwyf; calennig gwragedd-da Cred, cylorffon ceuol arffed, ystum llindag, ceiliagwydd yn cysgu yn ei blu blwydd, paeledwlyb wddw paladflith, pen darn imp, paid a'th chwimp chwith; pyles gam, pawl ysgymun, piler bon dau hanner bun, pen morlysywen den doll, pwl argae fal pawl irgoll. Hwy wyd na morddwyd mawrddyn, hirnos herwa, gannos gyn; taradr fal paladr y post, benlledr a elwir bonllost. Trosol wyd a bair traserch, clohigin clawr moeldin merch. Chwibol yn dy siol y sydd, chwibbanogl gnuchio beunydd. Y mae llygad i'th iaden a wyl pob gwreignith yn wen; pestel crwn, gwn ar gynnydd, purdan ar gont fechan fydd; toben arffed merchedau, tafod cloch yw'r tyfiad clau; cibyn dwl, ceibiai dylwyth, croen dagell, ffroen dwygaill ffrwyth. Llodraid wyd o anlladrwydd, lledr d'wddw, llun asgwrn gwddw gwydd; hwyl druth oll, hwl drythyllwg, hoel drws a bair hawl a drwg. Ystyr fod gwrit a thitmant, ostwng dy ben, planbren plant. Ys anodd dy gysoni, ysgwd oer, dioer gwae di! Aml yw cerydd i'th unben, amlwg yw'r drwg drwy dy ben.
Prydydd i Forfudd wyf fi, Prid o swydd, prydais iddi. Myn y Gŵr a fedd heddiw Mae gwayw i'm pen am wen wiw, Ac i'm tâl mae gofalglwyf; Am aur o ddyn marw ydd wyf. Pan ddêl, osgel i esgyrn, Angau a'i chwarelau chwyrn, Dirfawr fydd hoedl ar derfyn, Darfod a wna tafod dyn. Y Drindod, rhag cydfod cwyn, A mawr ferw, a Mair Forwyn A faddeuo 'ngam dramwy, Amen, ac ni chanaf mwy.
Gollwyn ydd wyf ddyn geirllaes, gorlliw eiry mân marian maes; gŵyl Duw y mae golau dyn, goleuach nog ael ewyn. Goleudon lafarfron liw, goleuder haul, gŵyl ydyw. Gŵyr obryn serchgerdd o’m pen, goreubryd haul ger wybren. Gwawr y bobol, gwiwra bebyll, gŵyr hi gwatwaru gŵr hyll. Gwiw Forfudd, gwae oferfardd gwan a’i câr, gwen hwyrwar hardd. Gwe o aur, llun dyn, gwae ef gwiw ei ddelw yn gwaeddolef. Mawr yw ei thwyll a’i hystryw, mwy no dim, a’m enaid yw. Y naill wers yr ymdengys fy nyn gan mewn llan a llys, a’r llall, ddyn galch falch fylchgaer, yr achludd gloyw Forfudd glaer, mal haul ymylau hoywles, mamaeth tywysogaeth tes. Moliannus yw ei syw swydd, maelieres Mai oleurwydd. Mawr ddisgwyl Morfudd ddisglair, mygrglaer ddrych mireinwych Mair. Prydydd i Forfudd wyf fi, Prid o swydd, prydais iddi. Myn y Gŵr a fedd heddiw Mae gwayw i'm pen am wen wiw, Ac i'm tâl mae gofalglwyf; Am aur o ddyn marw ydd wyf. Pan ddêl, osgel i esgyrn, Angau a'i chwarelau chwyrn, Dirfawr fydd hoedl ar derfyn, Darfod a wna tafod dyn. Y Drindod, rhag cydfod cwyn, A mawr ferw, a Mair Forwyn A faddeuo 'ngam dramwy, Amen, ac ni chanaf mwy.
Deuthum i ddinas dethol, A’m hardd wreangyn i’m hôl. Cain hoywdraul, lle cwyn hydrum, Cymryd, balch o febyd fum, Llety urddedig ddigawn Cyffredin, a gwin a gawn. Canfod rhiain addfeindeg Yn y ty, mau enaid teg. Bwrw yn llwyr, liw haul dwyrain, Fy mryd ar wyn fy myd main. Prynu rhost, nid er bostiaw, A gwin drud, mi a gwen draw. Gwarwy a gâr gwyr ieuainc – Galw ar fun, ddyn gwyl, i’r fainc. Hustyng, bum wr hy astud, Dioer yw hyn, deuair o hud; Gwneuthur, ni bu segur serch, Amod dyfod at hoywferch Pan elai y minteioedd I gysgu; bun aelddu oedd. Wedi cysgu, tru tremyn, O bawb eithr myfi a bun, Profais yn hyfedr fedru Ar wely’r ferch; alar fu. Cefais, pan soniais yna, Gwymp dig, nid oedd gampau da; Haws codi, drygioni drud, Yn drwsgl nog yn dra esgud. Trewais, ni neidiais yn iach, Y grimog, a gwae’r omach, Wrth ystlys, ar waith ostler, Ystôl groch ffôl, goruwch ffêr. Dyfod, bu chwedl edifar, I fyny, Cymry a’m câr, Trewais, drwg fydd tra awydd, Lle y’m rhoed, heb un llam rhwydd, Mynych dwyll amwyll ymwrdd, Fy nhalcen wrth ben y bwrdd, Lle’dd oedd gawg yrhawg yn rhydd A llafar badell efydd. Syrthio o’r bwrdd, gragwrdd drefn, A’r ddeudrestl a’r holl ddodrefn’ Rhoi diasbad o’r badell I’m hôl, fo’i clywid ymhell; Gweiddi, gwr gorwag oeddwn, O’r cawg, a’m cyfarth o’r cwn. Yr oedd gerllaw muroedd mawr Drisais mewn gwely drewsawr, Yn trafferth am eu triphac Hicin a Siencin a Siac. Syganai’r gwas seog enau, Araith oedd ddig, wrth y ddau: ‘Mae Cymro, taer gyffro twyll, Yn rhodio yma’n rhydwyll; Lleidr yw ef, os goddefwn, ‘Mogelwch, cedwch rhag hwn.’ Codi o’r ostler niferoedd I gyd, a chwedl dybryd oedd. Gygus oeddynt i’m gogylch Yn chwilio i’m ceisio i’m cylch; A minnau, hagr wyniau hyll, Yn tewi yn y tywyll. Gweddiais, nid gwedd eofn, Dan gêl, megis dyn ag ofn; Ac o nerth gweddi gerth gu, Ac o ras y gwir Iesu, Cael i minnau, cwlm anhun, Heb sâl, fy henwal fy hun. Dihengais i, da wng saint, I Dduw’r archaf ffaddeuaint.
'Tydi, y bwth tinrhwth twn Rhwng y gweundir a'r gwyndwn, Gwae a'th weles, dygesynt, Yn gyfannedd gyntedd gynt, Ac a'th wŷl heddiw'n friw frig, Dan dy ais yn dŷ ysig. A hefyd ger dy hoywfur Ef a fu ddydd, cerydd cur, Ynod ydd oedd ddiddanach Nog yr wyd, y gronglwyd grach, Pan welais, pefr gludais glod, Yn dy gongl, un deg yngod, Forwyn, foneddigfwyn fu, Hoywdwf yn ymgyhydu, A braich pob un, cof un fydd, Yn gwlm amgylch ei gilydd: Braich meinir, briw awch manod, Goris clust goreuwas clod, A'm braich innau, somau syml, Dan glust asw dyn glwys disyml. Hawddfyd gan fasw i'th fraswydd, A heddiw nid ydiw'r dydd'. 'Ys mau gŵyn, gwirswyn gwersyllt, Am hynt a wnaeth y gwynt gwyllt. Ystorm o fynwes dwyrain A wnaeth cur hyd y mur main. Uchenaid gwynt, gerrynt gawdd, Y deau a'm didyawdd'. 'Ai'r gwynt a wnaeth helynt hwyr? Da nithiodd dy do neithwyr. Hagr y torres dy esyth. Hudol enbyd yw'r byd byth. Dy gongl, mau ddeongl ddwyoch, Gwely ym oedd, nid gwâl moch. Doe'r oeddud mewn gradd addwyn Yn glyd uwchben fy myd mwyn. Hawdd o ddadl, heddiw 'dd ydwyd, Myn Pedr, heb na chledr na chlwyd. Amryw bwnc ymwnc amwyll. Ai hwn yw'r bwth twn bath twyll?' 'Aeth talm o waith y teulu, Dafydd, â chroes. Da foes fu'.
Oriau hydr yr ehedydd a dry fry o'i dŷ bob dydd, borewr byd, berw aur bill, bardd â'r wybr, borthor Ebrill. Llef radlon, llywiwr odlau, llwybr chweg, llafur teg yw'r tau: llunio cerdd uwchben llwyn cyll, lledneisgamp llwydion esgyll. Bryd y sydd gennyd, swydd gu, a brig iaith, ar bregethu. Braig dôn o ffynnon y ffydd, breiniau dwfn gerbron Dofydd. Fry yr ai, iawnGai angerdd, ac fry y ceny bob cerdd; mygr swyn gerllaw magwyr sêr, maith o chwyldaith uchelder. Dogn achub, digon uched y dringaist, neur gefaist ged. Moled pob mad greadur ei Greawdr, pefr lywiawdr pur. Moli Duw mal y dywaid, mil a'i clyw, hoff yw, na phaid. Modd awdur serch, mae 'dd ydwyd? Mwyngroyw y llais mewn grae llwyd. Cathl lân a diddan yw'r dau, cethlydd awenydd winau. Cantor o gapel Celi, coel fydd teg, celfydd wyd di. Cyfan fraint, aml gywraint gân, copa llwyd yw'r cap llydan. Cyfeiria'r wybr cyfarwydd, cywyddol, dir gwyndir gŵydd. Dyn uwchben a'th argenfydd dioer pan fo hwyaf y dydd. Pan ddelych i addoli, dawn a'th roes Duw Un a Thri: nid brig pren uwchben y byd a'th gynnail, mae iaith gennyd, ond rhadau y deau Dad a'i firagl aml a'i fwriad. Dysgawdr mawl rhwng gwawl a gwyll, disgyn, nawdd Duw ar d'esgyll. Fy llwyteg edn, yn llatai, a'm brawd awdurdawd, od ai, annerch gennyd wiwbryd wedd, loyw ei dawn, leuad Wynedd. A chais un o'i chusanau yman i'w dwyn ym, neu ddau. Dyfri yr wybrfor dyrys, dos draw hyd gerallaw ei llys. Byth, genthi bwyf fi, a fydd, bâr Eiddig, un boreddydd. Mae arnad werth cyngherthladd megys na lefys dy ladd. Be rhôn a'i geisio, berw hy, bw i Eiddig, ond byw fyddy. Mawr yw'r sercl yt o berclwyd, Â bwa a llaw mor bell wyd. Trawstir sathr, trist yw'r saethydd, trwstan o'i fawr amcan fydd; trwch ei lid, tro uwch ei law tra êl â'i hobel heibiaw.
Y sir oll a fesuraf o Deifi i Ddyfi ’dd af; o Dywyn ac o’r glyn floew y treiglaf i’m gwlad tragloew; profi achoedd prif uchel, ac ar dwf y gwr y dêl; dechreu o ddeheu ydd wyf, y Sirwern gwlad ni sorwyf: Hil Rhys melus y molaf, Tewdwr o Ddinefwr naf: Galw llwyth Einion Gwilym, y sy raid yn y sir ym’. Oddi yno mae f’eiddunoed, Dros y Cwm i dir Is Coed; Ym mlith llin Rhys chwith ni chaid Ond aur gan benaduriaid; Clawr rhif y gwr digrifion, Coed y maes yw cyd y Mon; Agos yw Caerwedros ym’, Dros y ddeheuros hoewrym. Dyfod at waith Llwyd Dafydd, Da fan gan bob dyn a fydd; Doniog i ni fod myn Deiniol Yn fardd i hil Llywelyn Foel! Trown yno trwy Wynionydd, Clera difeita da fydd; Llwyth Dafydd Gwynionydd gân, Hael faich o Hywel Fychan; Pob rhyw [wr] pybyr eiriau, O Ddinawal a dâl dau. Oddi yno deffro’r dyffryn Rhwyfo’r glod rhof ar y glyn, Pob man o’r glyn a blanwyd, Pob ffin a llin Ieuan Llwyd; Dyfod at wyrion Dafydd Tros y rhos, wttreswr rhydd; Dilyn y man y delwyf, Pobl Weithfoed erioed yr wyf: Mawr a wnaf, myn Mair a Non! O Benardd a Mabwynion, I riniog oludog wledd, Mi af yno, mae f’ annedd: Hil y Caplan, oedd lanaf, Gwir iawn, ei garu a wnaf. Troi f’ wyneb traw i fynydd, Drwy y sir o dre y sydd; Amlwg yw hil Gadwgon, O waelod hardd y wlad hon. Goreu ceraint gwr carawg A llyn fydd rhyngddyn’ y rhawg. Digrifion myn Duw grofwy, Doethion a haelion n’ hwy, Câr iddynt wyf o’r Creuddyn, Llyna haid o’i llin i hyn; Llinach Llywelyn Ychan Y maent hwy oll, myn y tân. Enwau y cwmmwd einym’ Perfedd hyd Wynedd, da ym’: Llawdden oedd y gwarden gynt Hil Llawden hael oll oeddynt. Achau y cwmmwd uchod, Geneu’r Glyn lle gana’r glod; Moli hil Gynfyn Moelawr, Ydd wyf fi, ac Adda Fawr. Llyna hwy wrth y llinyn, Achau’r holl gymmydau hyn: Ufudd a dedwydd da iawn, A mawr agos môr eigiawn; Troi’n eu mysg trwy ddysg ydd wyf, Tros y wlad trasol ydwyf. Ni chawn, myn Duw a Chynin! Dy bach o’r Deheu heb win. Llawen fyddai gwên pob gwr Wrth Ddeio gymmhorthäwr; Rhai dibwyll aur a dybia Na chenid dim ond chwant da, Cariad y ddeheu-wlad hon, Rhai a’i haeddodd â rhoddion. Lle mager yr aderyn, Yno trig, natur yw hyn; Minnau o’r Deau nid af; Ar eu hyder y rhodiaf.
Wele rith fel ymyl rhod - o'n cwmpas, Campwaith dewin hynod; Hen linell bell nad yw'n bod, Hen derfyn nad yw'n darfod.
Elphin dêg taw a'th wylo; Na chabled neb yr eiddo; Ny wna lês drŵg obeithio; Ny wyl dŷn ddim a'i portho; Ny bydd coeg gweddi Cynllo; Ny thyrr Diw a'r addawo: Ny châd yn ngored Wyddno, Erioed cystal a heno Elphin deg sych dy ddeururr; Ny weryd od yn rhybrudd; Cyd tybiaist na chefaist fudd; Ni wna les gomod cystudd; Nac ammau wyrthiau Dofydd; Cyd bwyf bychan wyf gelfydd: O Foroedd ag o fynydd, Ag o eigion Afonydd, Y daw Duw a dâ i ddedwydd. Elphin gynneddfau diddan; An filwraidd yw' d' amcan; Nyt rhaid yt' ddirfawr gwynfan; Gwell yw Duw na drwg ddarogan; Cyd bwyf eiddil a bychan, A'r gorferw morr dylan, Mi a wnâf yn nydd cyfyrdan, Yt well na thrychan Maran. Elphin gynneddfau hynod, Na sorr a'r dy gyffaelod; Cyd bwyf gwann ar lawr fy nghod; Mae rhinwedd ar fy nhafod; Tra fwyf fi y'th gyfragod, Nid rhaid ytt ddirfawr ofnod; Drwy goffhâu enwau'r Drindod; Ni ddichon neb dy orfod.
Eiry mynydd blin yw'r byd, Ni ŵyr neb ddamwain golud; Nid â traha i weryd; Ni phery dim on ennyd: Gnawd gorfod yn ol adfyd; Twyllo gwirion sy enbyd; Byth ni lwydda, un a gwŷd! Ar Dduw 'n unig rhown oglud. Eiry mynydd gwynn corn mwg, Hoff yw gan Leidr dywyllwg; Gnawd galanas hir gilwg; Gwynn ei fyd, a fo diddrwg! Hawdd cymmell diriaid i ddrg; Nid da digwydd trythyllwg; Ar Bennaeth bai fydd amlwg; Coelia 'n llai 'r Glust na'r Golwg. Eiry Mynydd mawr ar Rôs, Gofal Herwr, ar hirnos; Anaml lles o rodio 'r nos, Cyn credu mynn yr achos; Cam ffordd, i ddieithr na ddangos: Na wreicca, i ddieithr na ddangos: Na wreicca, ond yn agos; Nag anifeiliaid ar gefn rhos, Llywodraeth Gwŷr fydd anos. Eiry Mynydd, da yw'r Hedd, Cynn dechrau gwel y diwedd; Mawr gofal dyn mewn blinded; Gnawd adfyd, yan ôl trawsedd; Gweddwa un pêth yw bonedd; Oni chanlyn rhyw rinwedd, I wrthwyneb aruthredd; Ystyrio dyn sydd ryfedd! Eiry Mynydd melys Gwîn; Pwy ŵyr trangc mâb wrth feithrin? Ni chair parch ar gysefin, Nid gwerthfawr y Cyffredin; Nid rhybarch rhŷ gynefin; Nid parhäus Llywiawdr gwerin; Am bechodau 'r Cyffredin, Y hydd Duw annoeth frenin. Eiry Mynydd lwmm ŷch llog; Bechan Deyrnas, i chwannog; Gnawd yr Ieuangc yn ddifiog; Aml tro ar feddwl ferchog; Na thynn chwarau ar daëog; Na fydd rŷ hyf, ar rywiog: Gwae 'r neb, a fo dyledog! Lle bo annoeth Dywysog. Eiry Mynydd hoff yw clod; Ni waeth digon, na gormod; Yn ôl traha, gnawd gorfod; Mawr yw codiad aur dafod; Ar ddim, na wnâ mor difrod: Ni ludd, i gael y parod; Nid llai heiniar er Cerdod Cywira Cydymaith prïod. Eiry Mynydd Duw sy Nêr: Cnotta cwymp o'r Uchelder; Anhardd ar Bennaeth balchder; Gwisg orau i ferch yw gwylder; Hardd iawn ar ŵr yw hyder Gwell nag Athro yw arfer; Gwedi profi ffyrdd lawer, Mae 'r Byd i gyd yn ofer. Eiry Mynydd dail ar Onn; Tryma dim dwyn gofalon; C'letta clwyf, clefyd calon; Nid Gwr i'r Byd yw'r cyfion; Mwyaf can a dŷn Union; Mwyaf ofnir y trawsion; Trwy filoedd o berygoln, Duw a weryd ei wirion. Eiry Mynydd cair gweled, Nad da mynych nâg, am ged; Nid cybydd yw pob caled; Na liwia ii neb ei dynged, Heb fai nid neb a aned; O fynych fenter gnawd colled; Ni lwydd a wneir mewn hocced Gwaetha 'stôr o'r merched. Eiry Mynydd mae'n ysbys, Gnawd Edifeirwch of frŷs; Drwg fydd lleferydd ffawttus; Anodd cydfod eiddigus; Ni fawr gwsg un gofalus; Mawr gwenwyn y gwenheithus; Pell amcan y deällus; Ffola dyn yn Cynfigenus. Eiry Mynydd llydan mor, Gorau ar hên ei gyngor; Dyro i'th well ei ragor; Gwell celfyddyd na thryfor; Ffol nwyfus, hawdd ei hepcor; Un fâth a Llong ar gefnfor, Heb Raff, heb Hwyl, nag Angor, Ydyw'r ieuanc heb gyngor.
Mis JONAWR myglyd Dyffryn, Blin Trulliad, teiglad Clerddyn; Cul Brân, anaml llais Gwenyn; Gwâg Buches, diwres Odyn; Gwael gŵr anwiw i ofyn. Gwae a garo, ei dri gelyn! Gwîr a ddywaid Cynfelyn, Gorau Canwyll Pwyll i ddŷn. Mis CHWEFROR anaml Ancwyn; Llafurus Pâl, ag Olwyn; Cnawd gwaeth, o fynych gyffwyn; Gwae heb aid a wnêl achwyn! Tri pheth, a dry drŵg wenwyn, Cyngor Gwraig, Murn, a Chynllwyn: Penn Ci, ar fore Gwanwyn; Gwae a laddodd ei Forwyn! Mis MAWRTH, mawr ryfyg Adar Chwerw oerwynt, ar dalar; Hwy fydd Hinon, Na Heiniar; Hwy pery Llid na Galar? Pob rhyw arynnaig a ysgar; Pôb Edn a edwyn ei gymmar: Pob peth a ddaw trwy'r ddaëar Ond y marw, mawr ei garchar! Mis EBRILL wybraidd gorthir; Llueddedig Ychen, llwm Tir; Cnawdosb er nas gwalnoddir; Gwael Hŷdd chwaraëus clust hir; Aml bai lle nis Cerir; Gwyn ei fŷd a fo cywir; Cnawd difrod, a'r blant enwir; Cnaed gwedi Traha, trangc hir. Mis MAI difrodus Geilwad; Clŷd Clawdd, i bôb di gariad; Llawen hên di Archenad; Llafar Côg, a Bytheiad; Hyddail Cowd, hyfryd anllad: Nid hwyrach daw i'r farchnad, Groen yr Oen, na chroen y Ddafad. Mis MEHEFIN hardd Tiredd; Llyfn Môr, llawen Maranedd; Hirgain Ddydd, heini Gwragedd; Hilawn Praidd, hyffordd Mignedd; Duw a gâr, bob Tangnefedd; Diawl a bair bôb Cynddrygedd; Pawb a chwennych Anrhydedd; Pôb Cadarn, gwan ei ddiwedd. Mis GORPHENHAF hyglyd Gwair; Taer Tês tawddedig Cyffair; Ni châr Gwilliaid hir gyngrair: Llomm Ydlan, lledwag Cronnffair; Llwyr dielid Mefl Mawrair; Ni lwydd hil Corph anniwair; Gwir y ddywaid Mab Maeth Mair, Duw a farn, dŷn a lefair. Mis AWST Molwynog Morfa; Lonn Gwenyn llawn Modryda; Gwel gwaith Crymman, na Bwa; Amlach Dâs, na Chwareufa; Ni lafur, ni weddïa; Nid teilwng, iddo 'i Fara: Gwir a ddywaid Saint Breda, Nid llai Cyrchir, drŵg na da. Mis MEDI mydr anghennion! Addfed oed ŷd ag Aeron; Gwayw fydd hiraeth fu Nghalon; Gwaetha da drwy Anudon: Gwaetha gwîr gwarchae dynion: Traha, a threifio'r gwirion, A ddifa'r Etifeddion: Golwg Duw ar y T'lodion. Mis HYDREF hydraul Echel; Chwaraëus Hŷdd, chwyrn afael; Gnawd yspeilynt yn rhyfel, Gnawd Lladrad, yn ddi ymgel, Gwae ddiriaid! ni ddawr pann ddêl; Trychni nid rhwydd ei Ochel: Angau, a ddaw'n ddiogel; Ammau fŷdd y dŷdd y dêl. Mis TACHWEDD, tuchan merydd; Brâs Llydnod, llednoeth Coedydd; Awr a ddaw drwy lawenydd; Awr drist, drosti a dderfydd: Y Da nid eiddo'r Cybydd: Yr hael, a'i rho pieufydd; Dŷn, a Da;r Byd a dderfydd: Da Nefol, trag'wyddol fŷdd. Mis RHAGFYR, Byrddydd, Hirnos, Brân ar egin, Brwyn ar Rôs; Tawel Gwenyn ag Eos; Trîn yngheuodd diwedd nos: Adail dedwydd yw diddos: Yr hoedl er hyd fo'i haros, A dderfydd, yn Nŷdd a Nôs.
Eiry Mynydd caled grawn, Dail ar gychwyn lynwyn llawn; Nag ymddiriad i estrawn. Eiry Mynydd gwangcus Jâr; Gochwiban gwynt ar dalar; Yn yr ing, gorau yw'r câr. Eiry Mynydd llawn beudy; Clydwr i Ddafad ei chnu: Ni haedd diriaid ei garu. Eiry Mynydd gwynn pob clawdd; Gnawd yn Eglwyd gaffael nawdd: Cynnghori diriaid nid hawdd. Eiry Mynydd glâs Morfa; Cnawd Rhyfel y Cynhaua; Ni cheidw diriaid ei dda. Eiry Mynydd llwm afall; Ni bydd cywaethog rhygall; Gnawd o air ferth gael arall. Eiry Mynydd gwynn brig gwrŷsg; Gochwiban gwynt yn nherfysg; Trêch fydd anian, nag addysg.
Cefais gystudd i'm gruddiau, Oer anaf oedd i'r en fau; Oerfyd a gair o arwfarf, A dir boen o dori barf. Mae goflew im' ac aflwydd, A llwyni blew llai na blwydd; Crinwydd fal eithin crynion Yn fargod: da bod heb hon; Trwsa 'n difwyno traserch, Athrywyn mwynddyn a merch. Mynych y ffromai meinwen Wrth edrych ar wrych yr en; Difudd oedd ceisio 'i dofi: “Ffei o hon, hwt!”—ffoi wnai hi. Caswaith, er däed cusan, Ymdrin â merch â'm drain mân; Briwo 'i boch wrth ei llochi; Och! i'r rhawn; ac ni char hi; Ac aflwydd el â'r goflew; Sofl a blyg, ond ni syfl blew. Cas gan feinwar ei charu, O waith y farf ddiffaith, ddu. Pwn ar en, poen i wr yw, Poenus i wyneb benyw. Pleidwellt na laddai pladur, Rhengau o nodwyddau dur. Dreiniach, fal pigau draenog, Hyd en ddu fal dannedd og; Brasgawn, neu swp o brysgoed; Picellau fal cangau coed; Ffluwch lednoeth, yn boeth na bo! Gwyll hyllwedd, gwell ei heillio Ag ellyn neu lem gyllell, Farf ddiffaith! ni fu waith well. Ond gwell, rhag y gyllell gerth, Ennyn gwalc yn wen goelcerth; Mindrwch gwlltwr gweindrwch, gwandrwm; Dyrnwr a'i try, dwrn hwyr trwm; Ellyn â charn cadarn coch, Hwswi bendrom sebondroch, Tan fy marf, ar bob arfod, Y rhydd ei annedwydd nod— Briw cyfled â lled ei llafn, Llun osgo llaw anysgafn; O'm grudd y rhed y rhuddwaed; Bydd lle craf wanaf o waed; Gwelid o glust bwygilydd Ddau ben yr agen a rydd; Hifio fy nghroen a'm poeni; Llwyr flin yw ei min i min. O mynnai, nef im' unwaith, En iach, heb na chrach na chraith, Yn ddifrif rhown ddiofryd Holl hifwyr a barfwyr byd. Rhown ddinidr iawn eidduned, Llw diau, myn creiriau cred, Na fynnwn i fau wyneb Un ellyn noeth na llaw neb. Medrusaidd im' ei drawswch, A gwynfyd yw byd y bwch; Odid, filyn barfwyn bach, Y gellid cael ei gallach; A chywilydd, o choeliwch, I ddyn na bai ddoniau bwch; Hortair, na thybiai hurtyn Ddawn ei Dduw 'n addwyn i ddyn. Croesaw y farf, wiwfarf, yt; Cras orthwf, croesaw wrthyt! Na fid digrif yn ddifarf, Na 'i fin heb oll i'w harfolli; Arfollaf a harddaf hi; A dioddefaf dew ddudarf Rhag eillio, gribinio barf.
Bwriwyd unbardd, brad enbyd, Bwriai Dduw ben beirdd y byd! Brad gwawd buredig ydoedd, Bwrw niwl ar bêr awen oedd, Breuddwyd a'n gwnaeth yn bruddion, Bwrw cerdd bêr, brig, gwraidd a bôn; Diwraidd cerdd, dau arwydd cur, Dirym dadl, draw, am Dudur. Gyrrodd rhew o'i gwraidd y rhawg Gardd lysau'r gerdd luosawg, Os gwir rhoi - nid ysgar rhew - Eos Aled is olew; Trist yw'r cwyn tros awdur cerdd, Trwstan-gwymp trawst awen-gerdd. Ymroi i Dduw a Mair 'ddoedd, Wedi'r sidan drwsiadoedd; I ddofydd yr addefwyd, Ei ddewis glôg oedd wisg lwyd; Cryf oedd o serch crefydd saint, Crefyddfrawd Côr ufuddfreint; Ffydd y saint, hoff oedd ei swydd, Ffrawnsys a hoffai'r unswydd; Buasai well, 'n y bais hon, Bwrw deuddeg o brydyddion; Bid y brud a'r byd heb wres, Brud, hyd dydd brawd y toddes; Braidd, o gerdd, bereiddio gair, Braidd, gwedi bardd y gadair; I gadw rhoer ei gadair hardd Ar feddfaen yr ufuddfardd, A boed i'r un o'r byd rodd A fai'n well - ef a'i 'nillodd! Ni bu roddion bereiddiach, Nag awen ben Gwion Bach; Perach gwawd, parch, ag odiaeth, Petai'n fyw poet i nef aeth; Och dristed merch dros dad mawl, O chuddiwyd ei chywyddawl! Gwae ddyn wych, gwaeddwn uchod, Gwae, ni chlyw ganu ei chlod; Mae gweiddi am gywyddwr Merch a gwalch a march a gŵr; Och, dorri braich draw a bron Angel annwyl englynion! Bywiog englyn heb gonglau, Berw gân fraisg, brig awen frau; Am air hoyw, pwy mor rhywiog Heb wyrth gras aberth y Grôg? Eilio'r iaith fal Iolo'r oedd, Eiliad awdl Aled ydoedd. Awen ddofn o'r un ddefnydd A'r gawod fêl ar goed fydd; Awen frau, i nef yr aeth, Wrth freuder, werthfawr odiaeth; Cerdd ysgwîr, croywddysg araith, Clod y gŵr, clywed ei gwaith; Ef âi, o châi, afiach hen Ei chlywed, yn iach lawen. Didolcwaith gyfiaith a gad Deutu genau datgeiniad - Fal gwin oll neu fêl y gwnai Lais mwngwl Eos Menai. Mowrddysg oedd am urddas gwawd, Mwy fu irder myfyrdawd, I'r ddwy, dysgai'r ddau degwch - Y mêl a'r cwyr aml i'r cwch; Mab ydoedd am wybodaeth, Merddin Wyllt, marw ddoe a wnaeth. Yma'n y byd, mwy, ni bydd Ail Dudur Aled wawdydd; Ethrylith aeth ar elawr, A therm oes yr athro mawr; Ni wyddwn, o iawn addysg, Nes ei ddwyn, eisieu ei ddysg; Ag yn ei fedd gan ei fod, Mae'r Beibl mawr heb ei wybod; Ef a wyddiad ar foddau Ei hun, gwell no hŷn nag iau. Yn iach awen, och, ieuainc! Yn iach farn iawn uch y fainc; Yn iach brigyn, awch breugerdd, Yn iach cael cyfrinach cerdd; Yn iach un ni châi einioes Yn iach ei ail yn eich oes; I ail einioes lawenach, I wlad nef eled, yn iach!
Oer calon dan fron o fraw - allwynin Am frenin, dderwin ddôr, Aberffraw. Aur dilyfn a delid o'i law, Aur dalaith oedd deilwng iddaw. Eurgyrn eurdëyrn ni'm daw, - llewenydd Llywelyn, nid rhydd im rwydd wisgaw. Gwae fi am arglwydd, gwalch diwaradwydd; Gwae fi o'r aflwydd ei dramgwyddaw. Gwae fi o'r golled, gwae fi o'r dynged, Gwae fi o'r clwyed fod clwyf arnaw. Gwersyll Cadwaladr, gwaesaf llif daradr, Gwas rhudd ei baladr, balawg eurllaw. Gwasgarawdd alaf, gwisgawdd bob gaeaf, Gwisgoedd amdanaf i amdanaw. Bucheslawn arglwydd ni'n llwydd ein llaw! Buchedd dragywydd a drig iddaw. Ys mau llid wrth Sais am fy nhreisiaw, Ys mau rhag angau angen gwynaw, Ys mau gan ddeunydd ddieniwaw - Duw, A'm edewis hebddaw. Ys mau ei ganmawl heb dawl, heb daw, Ys mau fyth bellach ei faith bwyllaw, Ys mau i'm dynoedl amdanaw - afar, Can ys mau alar, ys mau wylaw. Arglwydd a gollais, gallaf hirfraw, Arglwydd tëyrnblas a las o law; Arglwydd cywir gwir, gwarandaw - arnaf, Uched y cwynaf: och o'r cwynaw! Arglwydd llwydd cyn lladd y deunaw, Arglwydd llary, neud llawr ysy daw, Arglwydd glew fal llew yn llwyiaw - elfydd, Arglwydd aflonydd ei afluniaw. Arglwydd canadlwydd, cyn adaw - Emrais: Ni lyfasai Sais ei ogleisiaw. Arglwydd, neud maendo ymandaw - Cymry, O'r llin a ddyly ddaly Aberffraw. Arglwydd Grist, mor wyf drist drostaw, Arglwydd gwir, gwared i ganthaw. O gleddyfawd trwm tramgwydd arnaw, O gleddyfau hir yn ei ddiriaw, O glwyf am fy rhwyf ysy'n rhwyfaw, O glwyed lludded llyw Bodfaeaw, Cwbl o was a las o law - esgeraint, Cwbl fraint ei hynaint oedd ohonaw. Cannwyll tëyrnedd, cadarnllew Gwynedd, Cadair anrhydedd, rhaid oedd wrthaw. O laith Prydain faith, cwynllaith canllaw, O ladd llew Nancoel, llurig Nancaw. Llawer deigr hylithr yn hwyliaw - ar rudd, Llawer ystlys rhydd a rhwyg arnaw, Llawer gwaed am draed wedi ymdreiddiaw, Llawer gweddw â gwaedd i amdanaw, Llawer meddwl trwm yn tramwyaw, Llawer mab heb dad gwedi ei adaw. Llawer hendref fraith gwedi llwybr goddaith, A llawer diffaith drwy anrhaith draw; Llawer llef druan fal ban fu Gamlan, Llawer deigr dros ran gwedi'r greiniaw. O leas gwanas, gwnanar eurllaw, O laith Llywelyn cof dyn ni'm daw. Oerfelawg calon dan fron o fraw, Rhewydd fal crinwydd ysy'n crinaw. Poni welwch chwi hynt y gwynt a'r glaw? Poni welwch chwi'r deri'n ymdaraw? Poni welwch chwi'r môr yn merwinaw - 'r tir? Poni welwch chwi'r gwir yn ymgweiriaw? Poni welwch chwi'r haul yn hwyliaw - 'r awyr? Poni welwch chwi'r sy^r wedi r' syrthiaw? Poni chredwch chwi i Dduw, ddyniadon ynfyd? Poni welwch chwi'r byd wedi'r bydiaw? Och hyd atat ti Dduw na ddaw - môr dros dir! Na beth y'n geidr i ohiriaw? Nid oes le y cyrcher rhag carchar braw, Nid oes le y trigier, - och o'r trigiaw! - Nid oes na chyngor na chlo nac agor, Unffordd i esgor brwyn gyngor braw. Pob teulu, teilwng oedd iddaw; Pob cedwyr, cedwynt odanaw; Pob dengyn a dyngynt o'i law; Pob gwledig, pob gwlad oedd eiddaw. Pob cantref, pob tref y^nt yn treiddiaw; Pob tylwyth, pob llwyth ysy'n llithraw; Pob gwan, pob cadarn cadwed o'i law; Pob mab yn ei grud sy'n udaw. Bychan lles oedd im, am fy nhwyllaw, Gadael pen arnaf heb ben arnaw. Pen pan las, ni bu gas gymraw; Pen pan las, oedd lesach peidiaw. Pen milwr, pen moliant rhag llaw, Pen dragon, pen draig oedd arnaw. Pen Llywelyn deg, dygn o fraw - i'r byd Bod pawl haearn trwyddaw. Pen f'arglwydd, poen dygngwydd a'm daw, Pen f'enaid heb fanag arnaw, Pen a fu berchen ar barch naw - canwlad, A naw canwledd iddaw. Pen tëyrn, hëyrn heaid o'i law, Pen tëyrnwalch balch, bwlch edeifniaw, Pen tëyrnaidd flaidd flaengar ganthaw: Pen Tëyrnef Nef, Ei nawdd arnaw. Gwyndëyrn gorthyrn wrthaw, - gwendorf gorf, Gorfynt hynt hyd Lydaw, Gwir freiniawl frenin Aberffraw, Gwenwlad nef boed addef iddaw.
Y ddyn â'r santaidd anwyd, o Dduw! hudolesaidd wyd. Mae gennyd, tau ysbryd da, oes, iaith y gŵr o Sithia. Delw ddoeth hudolaidd iawn, dillynes a dwyll uniawn. Dy ddrem gellweirgar arab loywddu fwyn a laddai fab. Mi a nodais amneidiau a wnaud im, ai un ai dau: nodi golwg anwadal, nodi twyll amneidiau tâl. Darllain yr ael fain, f'annwyl, a'i selu gaf Sul a gŵyl; euraid ysgrifen arab, awgrym merch i garu mab. Dy weled yn dywedyd ydd wyf fi fal y ddau fud. Ni wŷl annoeth eleni synhwyrau'n amneidiau ni. Dywed air mwyn â'th wyneb o'th galon im, ni'th glyw neb. Ti a wyddost, wyt addwyn, ddywedyd ar y mynud mwyn; ef a ŵyr y galon fau dy feddwl ar dy foddau. Llygaid a ddywaid i ddoeth synnwyr lle nis cais annoeth - lleddfon dröedyddion drych, lladron a fyn lle i edrych. Myfi a ŵyr ysbïo ar y drem bob cyfryw dro. Edrych arnad, cyd gwadaf, dan gêl yng ngŵydd dyn a gaf: un edrychiad pechadur ar nef cyn goddef ei gur; golwg Dafydd ap Gwilym o gwr ael ar Ddyddgu rym; golwg mab ar ddirgeloed, golwg gwalch ar geiliog coed; golwg lleidr dan ei 'neidrwydd ar dlysau siopau yw'r swydd; golwg hygar garcharor ar ddydd drwy gysylltau'r ddôr. 'Y nyn, er na chawn ennyd un gair o 'mddiddan i gyd, ni a gawn drwy flaenau gwŷdd roi golwg ar ei gilydd. Mynud a ddywaid mwynair heb wybod rhag athrod gair. Oes dyn islaw yr awyr, (nac oes!) onid mi, a'i gŵyr? Un ddichell ac un gellwair ydym 'i, myn Duw a Mair, un awenydd, un weniaith, un fwynder ar ofer iaith. Un a Thri ein gweddiau yn un dyn a'n gwnêl ni'n dau!
Pob rhyw brydydd, dydd dioed, Mul rwysg wladaidd rwysg erioed, Noethi moliant, nis gwrantwyf, Anfeidrol reiol, yr wyf Am gerdd merched y gwledydd A wnaethant heb ffyniant ffydd Yn anghwbl iawn, ddawn ddiwad, Ar hyd y dydd, rho Duw Dad. Moli gwallt, cwnsallt ceinserch, A phob cyfryw fyw o ferch, Ac obry moli heb wg Yr aeliau uwch yr olwg. Moli hefyd, hyfryd tew, Foelder dwyfron feddaldew, A moli gwen, len loywlun, Dylai barch, a dwylaw bun. Yno, o brif ddewiniaeth, Cyn y nos canu a wnaeth, Duw yn ei rodd a’i oddef, Diffrwyth wawd o’i dafawd ef. Gado’r canol heb foliant A’r plas lle’r enillir plant, A’r cedor clyd, hyder claer, Tynerdeg, cylch twn eurdaer, Lle carwn i, cywrain iach, Y cedor dan y cadach. Corff wyd diball ei allu, Cwrt difreg o’r bloneg blu. Llyma ’nghred, gwlad y cedawr, Cylch gweflau ymylau mawr, Cont ddwbl yw, syw seingoch, Dabl y gerdd â’i dwbl o goch, Ac nid arbed, freuged frig, Y gloywsaint wŷr eglwysig Mewn cyfle iawn, ddawn ddifreg, Myn Beuno, ei deimlo’n deg. Am hyn o chwaen, gaen gerydd, Y prydyddion sythion sydd, Gadewch yn hael, gafael ged, Gerddau cedor i gerdded. Sawden awdl, sidan ydiw, Sêm fach len ar gont wen wiw, Lleiniau mewn man ymannerch, Y llwyn sur, llawn yw o serch, Fforest falch iawn, ddawn ddifreg, Ffris ffraill, ffwrwr dwygaill deg. Pant yw hwy no llwy yn llaw, Clawdd i ddal cal ddwy ddwylaw. Trwsglwyn merch, drud annerch dro, Berth addwyn, Duw’n borth iddo.
Goreudduw gwiw a rodded Ar bren croes i brynu Cred, I weled, gweithred nid gau, O luoedd Ei welïau; Gwaed ar dâl gwedi’r dolur, A gwaed o’r corff gwedi’r cur. Drud oedd Ei galon drwydoll A gïau Duw i gyd oll. Oer oedd i Fair, arwydd fu, Wrth aros Ei ferthyru, Yr hwn a fu’n rhoi’i einioes I brynu Cred ar bren croes. Gŵr â’i friw dan gwr Ei fron, A’r un gŵr yw’r Oen gwirion. Prynodd bob gradd o Adda A’i fron yn don, frenin da. Ni cheir fyth, oni cheir Fo, Mab brenin mwy a’n pryno. Anial oedd i un o’i lu Fwrw dichell i’w fradychu: Siwdas wenieithus hydwyll, Fradwr Duw, a’i fryd ar dwyll, Prisiwr fu, peris ar fwyd, Ddolau praff, ddal y Proffwyd. Duw Mercher wedi ’mwarchad Ydd oedd ei bris a’i ddydd brad. Trannoeth, heb fater uniawn, Ei gablu’n dost gwbl nid iawn, A dir furn cyn daear fedd A’i ’sgyrsio ymysg gorsedd Oni gad, enwog ydiw, Glaw gwaed o’r gwelïau gwiw. Duw Gwener cyn digoni Rhoed ar y Groes, rhydaer gri, A choron fawr, chwerw iawn fu, A roesant ar yr Iesu, A’r glaif drud i’w glwyfo draw O law’r dall i’w lwyr dwyllaw. Trwm iawn o’r tir yn myned Oedd lu Crist wrth ddileu Cred A llawen feilch, fellýn fu, Lu Sisar pan las Iesu. Wrth hud a chyfraith oediog Y bwrien’ Grist mewn barn grog Er gweled ar Ei galon Gweli fraisg dan gil Ei fron. Ni bu yn rhwym neb un rhi, Ni bu aelod heb weli. Marw a wnaeth y mawr wiw nêr Yn ôl hyn yn ael hanner. Ar ôl blin yr haul blaned A dduodd, crynodd dir Cred. Pan dynnwyd, penyd einioes, Y gŵr grym o gyrrau’r groes, Sioseb a erchis Iesu I’w roi’n ei fedd, a’i ran fu. Pan godes, poen gyhydedd, Cwrs da i’r byd, Crist o’r bedd, Yna’r aeth, helaeth helynt, Lloer a’r haul o’u lliw ar hynt, A phan ddug wedi’r ffin ddwys Ei bridwerth i baradwys, Troi a wnaeth Duw Tri yn ôl I’r ffurf y bu’n gorfforol. Duw Naf i’r diau nefoedd Difiau’r aeth, diofer oedd, Yn gun hael, yn gynheiliad, Yn enw Duw, yn un â’i Dad. Un Duw cadarn y’th farnaf, Tri pherson cyfion y caf. Cawn drugaredd a’th weddi, Down i’th ras Duw Un a Thri. Cael ennill fo’n calennig Pardwn Duw rhag Purdan dig: Profiad llawen yw gennym Praffed gras y Proffwyd grym.
Bath ryw fodd, beth rhyfedda’, I ddyn, ni ennill fawr dda, Rhyfedda’ dim, rhyw fodd dig, Annawn wŷd yn enwedig, Bod gwragedd, rhyw agwedd rhus, Rhwydd wg, yn rhy eiddigus? Pa ryw natur, lafur lun, Pur addysg, a’i pair uddun? Meddai i mi Wenllïan, Bu anllad gynt benllwyd gân, Nid cariad, anllad curiaw, Yr awr a dry ar aur draw. Cariad gwragedd bonheddig Ar galiau da, argoel dig. Pe’m credid, edlid adlais, Pob serchog caliog a’m cais, Ni rydd un wraig rinweddawl, Fursen, ei phiden a’i phawl. O dilid gont ar dalwrn, Nid âi un fodfedd o’i dwrn: Nac yn rhad nis caniadai, Nac yn serth er gwerth a gâi. Yn ordain anniweirdeb Ni wnâi’i ymwared â neb. Tost yw na bydd, celfydd cain, Rhyw gwilydd ar y rhiain Bod yn fwy y biden fawr Na’i dynion yn oed unawr, Ac wyth o’i thylwyth a’i thad, A’i thrysor hardd a’i thrwsiad, A’i mam, nid wyf yn amau, A’i brodyr, glod eglur glau, A’i chefndyr, ffyrf frodyr ffydd, A’i cheraint a’i chwiorydd: Byd caled yw bod celyn Yn llwyr yn dwyn synnwyr dyn. Peth anniddan fydd anair, Pwnc o genfigen a’i pair. Y mae i’m gwlad ryw adwyth Ac eiddigedd, lawnedd lwyth, Ym mhob marchnad, trefniad drwg, Tros ei chal, trais a chilwg. Er rhoi o wartheg y rhên Drichwech a’r aradr ychen, A rhoi er maint fai y rhaid, Rhull ddyfyn, yr holl ddefaid, Gwell fydd gan riain feinir, Meddai rai, roi’r tai a’r tir, A chynt ddull, rhoi ei chont dda Ochelyd, na rhoi’i chala, Rhoi’i phadell o’i chell a’i chost A’i thrybedd na’i noeth rybost, Gwaisg ei ffull, rhoi gwisg ei phen A’i bydoedd na rhoi’r biden. Ni chenais ’y nychanon, Gwir Dduw hynt, ddim o’r gerdd hon, I neb o ffurfeidd-deb y ffydd A fyn gala fwy no’i gilydd.
Gwae’r undyn heb gywreindeb, Gwae’r un wen a garo neb; Ni cheir gan hon ei charu Yn dda, er ei bod yn ddu. Lliw yr un nid gwell o rod Y nos pan elo’n isod. Gwen fonheddig a ddigia, Naws dydd, oni bydd was da. Nid felly y gwna’r ddu ddoeth: Ei drinio a wna drannoeth. O dyfod Ieuan Dyfi Rhai drwg yn amlwg i ni, Rhai o’r gwynion fydd gwenwyn, A rhai da a urdda dyn. Merch a helethe Eneas, Ddu rudd, ac oedd dda o ras. Gwenddolen a ddialodd Ei bai am na wnaid ei bodd. Gwraig Ddyfnwal yn gofalu A wnâi les rhwng y ddau lu. Marsia ffel, gwraig Guhelyn, A ddaeth â’r gyfraith dda ynn; A gwraig Werydd, ddedwydd dda, Heddychodd, hyn oedd iacha’, Rhwng dau lu, mawr allu maeth, Mor felys rhag marfolaeth. Mam Suddas, oedd ddiraswr, Cywir a gwych carai’i gŵr, A gwraig Beiled, pei credid, Y gwir a ddywad i gyd. Elen merch Goel a welynt, Gwraig Gonstans, a gafas gynt Y Groes lle y lladdwyd Iesu, A’r gras, ac nis llas mo’i llu. Wrth Gwlan, fu un waneg, A ddoeth yr un fil ar ddeg O’r gweryddon i’r gradde Am odde a wnaeth, i Dduw Ne’. Gwraig Edgar, bu ddihareb, A wnaeth yr hyn ni wnaeth neb: Cerdded yr haearn tanllyd Yn droednoeth, goesnoeth i gyd, A’r tân ni wnaeth eniwed I’w chroen, mor dda oedd ei chred. Eleias a ddanfonasyd At wraig dda i gael bara a byd. Gwraig a wnaeth pan oedd gaetha’ Newyn ar lawer dyn da, O’r ddinas daeth at gasddyn Dig i ddywedyd i’r dyn; Troesai ei boen tros y byd, Disymwth y dôi symyd. Susanna yn sôn synnwyr, Syn a gwael oedd sôn y gwŷr. Mwy no rhai o’r rhianedd, Gwell no gwŷr eu gallu a’u gwedd. Brenhines, daeres dwyrain, Sy’ abl fodd, Sibli fain, Yn gynta’ ’rioed a ddoede Y down oll gerbron Duw Ne’; Hithau a farn ar yr anwir Am eu gwaith, arddoedyd gwir. Dywed Ifan, ’rwy’n d’ofyn, Yn gywir hardd, ai gwir hyn? Ni allodd merch, gordderchwr, Diras ei gwaith, dreisio gŵr. Dig aflan, o dôi gyfle, Ymdynnu a wnâi, nid am ne’. Gad yn wib, godinebwr, Galw dyn hardd gledren hŵr. Efô fu’n pechu bob pen, Ac o’i galon pe gwelen’. Dywed Ifan, ar dafawd, Rhodiog ŵr, cyn rhydu gwawd, Ai da i ferch golli’i pherchen, A’i phrynt a’i helynt yn hen? Yr un ffŵl a neidio wrth ffon Neu neidio wrth lw anudon, Aed ffeilsion ddynion yn ddig, Duw a fyddo dy feddyg.
Dager drwy goler dy galon - ar osgo I asgwrn dy ddwyfron; Dy lin a dyr, dy law’n don, A’th gleddau i’th goluddion.
Crwciodd lle dihangodd ei dŵr ’n grychiast O grochan ei llawdwr; Ei deudwll oedd yn dadwr’, Baw a ddaeth, a bwa o ddŵr.
Rhown fil o ferched, rhown fwyn lances, Lle ceisiais i orllwyn, Rhown gŵyn mawr, rhown gan morwyn Am un llanc ym min y llwyn.
Cerddais fin pêr aberoedd - yn nhwrf swil Nerfus wynt ar ffriddoedd; A braich wen yr heulwen oedd Am hen wddw'r mynyddoedd.
Wylo anniddig dwfn fy mlynyddoedd A'm gwewyr glyw-wyd ar lwm greigleoedd Canys Merch y Drycinoedd - oeddwn gynt: Criwn ym mawrwynt ac oerni moroedd. Dioer wylwn am na welwn fanwylyd, Tywysog meibion gwlad desog mebyd, Pan nad oedd un penyd hyd - ein dyddiau, Ac i'w rhuddem hafau cerddem hefyd. Un hwyr pan heliodd niwl i'r panylau Rwydi o wead dieithr y duwiau, Mi wybum weld y mab mau - yn troi'n rhydd O hen fagwyrydd dedwydd ei dadau. Y llanc a welwn trwy'r gwyll yn cilio I ddeildre hudol werdd Eldorado, O'i ôl bu'r coed yn wylo, - a nentydd Yn nhawch annedwydd yn ucheneidio. Y macwy heulog, paham y ciliodd? Ba ryw hud anwel o'm bro a'i denodd? Ei oed a'i eiriau dorrodd , - ac o'i drig Ddiofal unig efe ddiflannodd. A'i rhyw ddawn anwar oedd yn ei enaid? Neu ynteu hiraeth am lawntiau euraid? O'i ôl mae bro'i anwyliaid - dan wyll trwch Heb ei wên a'i degwch pur bendigaid. Minnau o'i ôl yng nghymun awelon, Troais i gwfert drysi ag afon, A churiwyd rhychau oerion - i'm deurudd, Is tawch cywilydd a thristwch calon. Twrf anniddan y gwynt ar fynyddau, A gawr allwynin y wig ar llynnau, Udent ym mhyrth fy nwydau, - oni throes Gerddi feinioes yn darth a griddfannau. Un nos oer hunais yn sur ewynnau, A gwenau aethus y lloergan hithau Hyd fy hirwallt fu oriau, - a'r crych pêr Yn wylon dyner fel henoed dannau. Yno mi gerddais tros drumau gwyrddion I bau hir-ddedwydd ym mraich breuddwydion; Hiraeth nid oedd yr awron, - canys caid Heulwennau euraid a thelynorion. Yn y bau loyw hon roedd teml ysblennydd O liwiau breuddwyd a haul boreddydd; Ac ar ei rhosliw geyrydd - roedd hwyliau O wyn lumannau fel niwl y mynydd. Oddi fewn gwelwn orsedd o fynor Ac arni ogonaid ddi-gryn gynnor; Ei lais mwyn fel su y môr, - a'i dalaith O wneuthuriad perffaith rhyw hud porffor. Yno roedd duwiau cerdd a dyhewyd A hoen ac asbri pob ieuanc ysbryd; Nid oedd ŵr annedwydd hyd - y wenfro, Ac ni bu yno o'r drwg nai benyd. A dull y gwron di-wall a gerais Ger allor heulog ar y llawr welais, Ac yn ei lyfn ysgawn lais - yr awron Hud ag alawon uwch gwybod glywais. Cans rhyw dduw â rhin ei fedr dewinol I'w ganaid wefus roes egni dwyfol; A rhoed lliw disglair hudol - i'w enaid O hafau euraid yr oes anfarwol. A rhoed dyhewyd hendre y duwiau Yn hud anorfod i'w danllyd nerfau, A chrisiant serch yr oesau - fel haen ddrud O ryfedd olud ar ei feddyliau. Ei law fynoraidd gariai lafn eurad A heriai dras pob diras ei doriad, Ac ar ei harddaf safiad - gwelwn ddelw Un allo farw i ennill ei fwriad. Yna rhyw faddon o dân rhyfeddol Welid yno trwy olau dewinol; Wedi hyn y mab denol - o'i fynwes I hwnnw a fwries y duw anfarwol. Codwyd y macwy, ac ymhen ennyd Doi nodau hudol y duwn dywedyd: Y mab hwn fydd grym y byd, - a'i eiriau Yn win y duwiau, yn dân dyhewyd. Gwn y bydd creulon droeon i'w drywydd, A du iawn adwyth a byd annedwydd; Eithr efe athro a fydd, - yn nysg gêl Y dyddiau anwel ar oed ddihenydd. Didlawd felyswawd y dwyfol oesau Au gloywaf fiwsig lif o'i wefusau; Ac yn asur dig nosau - pawb a'i gwêl Yn lloer dawel ac yn allur duwiau. Merchyg fel drycin ar flaen y trinoedd, A baidd â'i anadl ysgwyd byddinoedd; Ei wŷs a chwâl lynghesoedd, - a'i nerth maith Ofwya'n oddaith ar wyllt fynyddoedd. Geilw ar fywyd o'i benyd a'i boenau I fyd didranc yr ieuanc foreau, Ar oes wen liw rhosynnau - ddaw yn ôl Ar li anfarwol ei nwyf a'i eiriau. "Er i helynt y gerrynt ei guro, A bwrw ei hirnych o'r wybyr arno, Ni wêl hwn ddim a'i blino, - canys bydd Awen y gwynddydd pellennig ynddo. Rhyw ddydd llachar ofwya'r tyrfaoedd I'w oed urddasol 'rôl dadwrdd oesoedd; Yna holl wae ei drinoedd - dry'n nerfus Gân ar wefus moliannus ganrifoedd. Tros wefus ddi-wrid y pyramidiau Efe a lefair am ddwyfol hafau; Ac o'i lyfn gofgolofnau - efe fydd Duw a thywysydd gorymdaith oesau." Gwelwn y macwy mwy yn tramwyo I'w henwlad irad yn ôl i dario; Ond ar hyd Eldorado - llu mwynllais Yn dawnsio welais, a'r duw'n noswylio. Galwyd finnau o 'mreuddwyd mawreddog Gan wyntoedd oerfin cethrin ysgythrog; A chanai crych ewynog - ar y traeth Ogonedd hiraeth fy mron gynddeiriog.
Merddin Wyllt am ryw ddyn wyf, Mewn oed anghymen ydwyf. Awr ymhell yr amhwyllai, Awr o’i gof gan Dduw ry gâi. Minnau ni ddaw ym unawr Mewn y dydd na munud awr, Ac ni chawn, gwen ni chwynai, Gyty’r nos, gwatwar a wnâi, A dwedyd, och nad ydwyf, Anfad air, mai ynfyd wyf! Ni chaf forwyn o’i chyfryw, Na farned gwen, fry nid gwiw. Y cryfion gwychion a gaid, Y dewrion benaduriaid, Y doethion wedi hwythau Agos i wraig â’u sarhau. Samson, greulon gwroliaeth, O dwyll ei wraig, dall yr aeth. Pan oedd nod ei phriodas, Y gŵr ei gryfdwr a gas; E dynnodd yn oed unawr Y llys ar ei wartha’ i’r llawr. Dyn wy’ fwy-fwy dan fy ofn, Dyn gwael wyf dan y golofn. Selyf a droes, ail wyf draw, Siom gwraig sy i’m gorugaw. Alecsander, faner faith, Bu dano y byd unwaith; Nid âi ungwr â’i deyrnged, Ond tent gwraig, tu hwnt i Gred. Aristotlus, gweddus gwir, A dwyllwyd o deallir; Yntau un fodd, hwnt yn faith, A’i talodd ati eilwaith; Am ei thwyll a wnaeth allan, I eiliw’r tes olau’r tân. Ipo gynt anap a gâi, Ac un wen a’i gwenwynai; Aeth o’i gyngor y forwyn I’r llech oer, llai fu ei chŵyn. Siason i ddynion oedd dda, Siom adewis Medeia: Cur tost fu eu cariad hwy, Cwrs mawr fal Cruwsa ‘m murwy. Ni wn wenwyn un annerch, Na chas mwy no cheisio merch. Am Elen fu’r gynnen gynt, Oes Droea a ddistrywynt. Achos gwên Policsena Llas o dwyll Achilles da. Eneas wyf yn nwyawr Wedi’r farn ar Droea fawr. Un alar er a wnelwyf  Brutus ap Sylus wyf Wedi lladd, deall yddyn’ Ei fam a’i dad, wyf â’m dyn. Ercles, ni wedes, ydwyf, Och o’r serch, un echrys wyf, Neu Baris, wyneb oerwynt, Ofnog oedd am Feian gynt. Gwraig a wnaeth hil Groeg yn wan, Gwaed ac ymliw’r Gad Gamlan. Gwraig Fadog fwyn o Wynedd, Gwn a wnaeth, mae gwen un wedd. Ofydd, drosof oedd draserch, Fryd Sylus wyf, frad sêl serch. Merddin aeth, mawrddawn ei wedd, Mewn gwydr er mwyn ei gydwedd; Nid aeth, oedd adwyth iddi, Y drws o’i hôl a droes hi. Aeth y rhain, waith rhianedd, Yn feirwon, wyf yr un wedd. Ni bu Dduw heb ei ddial, Ni wyddiad hon na ddaw tâl. Myn y Wir Grog, mannau’r Groes, Minnau fynnaf, myn f’einioes, Ai’i lladd hi, oni’m lludd hon, Ai’i chael o fodd ei chalon.
Llys Ifor hael, gwael yw'r gwedd, - yn garnau mewn gwerni mae'n gorwedd; drain ac ysgall mall a'i medd, mieri lle bu mawredd. Yno nid oes awenydd, - na beirddion, na byrddau llawenydd, nac aur yn ei magwyrydd, na mael, na gw^r hael a'i rhydd. I Ddafydd gelfydd ei gân - oer ofid roi Ifor mewn graean; mwy echrys fod ei lys lân yn lleoedd i'r dylluan. Er bri arglwyddi byr glod, - eu mawredd a'u muriau sy'n darfod; lle rhyfedd i falchedd fod yw teiau ar y tywod.
Addewais yt hyn ddwywaith, addewid teg, addaw taith. Taled bawb, tâl hyd y bo, ei addewid a addawo. Pererindawd, ffawd ffyddlawn, perwyl mor annwyl mawl iawn, myned, mau adduned ddain, lles yw, tua llys Owain. Yno yn ddidro ydd af, nid drwg, ac yno trigaf i gymryd i'm bywyd barch gydag ef o gydgyfarch. Fo all fy naf uchaf ach, aur ben clêr, dderbyn cleiriach. Clywed bod, nis cêl awen, ddiwarth hwyl, yn dda wrth hen. I'w lys ar ddyfrys ydd af, o'r deucant odidocaf. Llys barwn, lle syberwyd, lle daw beirdd aml, lle da byd. Gwawr Bowys fawr, beues Faig, gofuned gwiw ofynaig. Llyna y modd a'r llun y mae: mewn eurgylch dwfr mewn argae. Pand da'r llys, pont ar y llyn, ac unporth lle'r âi ganpyn? Cyplau sydd, gwaith cwplws ŷnt, cwpledig bob cwpl ydynt. Clochdy Padrig, Ffrengig ffrwyth, cloystr Westmestr, cloau ystwyth. Cenglynrhwym bob congl unrhyw, cafell aur, cyfa oll yw. Cenglynion yn y fron fry dordor megis deardy, a phob un fal llun llynglwm sydd yn ei gilydd yn gwlm. Tai nawplad fold deunawplas, tŷ pren glân mewn top bryn glas. Ar bedwar piler eres mae'i lys ef i nef yn nes. Ar ben pob piler pren praff, llofft ar dalgrofft adeilgraff, a'r pedair llofft, o hoffter, yn gydgwplws lle cwsg clêr. Aeth y pedair disgleirlofft, nyth lwyth teg iawn, yn wyth lofft. To teils ar bob tŷ talwg, a simnai ni fagai fwg. Naw neuadd gyfladd gyflun, a naw wardrob ar bob un. Siopau glân, gwlys gynnwys gain, siop lawndeg fel Siêp Lundain. Croes eglwys gylchlwys galchliw, capelau a gwydrau gwiw. Pob tu'n llawn, pob tŷ'n y llys, perllan, gwinllan, gaer wenllys. Parc cwning meistr pôr cenedl, erydr a meirch hydr mawr chwedl. Garllaw'r llys, gorlliwio'r llall, y pawr ceirw mewn parc arall. Dolydd glân gwyran a gwair, ydau mewn caeau cywair. Melin deg ar ddifreg ddŵr, a'i golomendy gloyw maendwr. Pysgodlyn, cudduglyn cau, a fo rhaid i fwrw rhwydau; amlaf lle, nid er ymliw, penhwyaid a gwyniaid gwiw. A'i dir bwrdd a'r adar byw, peunod, crehyrod hoywryw. A'i gaith a wna bob gwaith gwiw, cyfreidiau cyfair ydyd, dwyn blaenffrwyth cwrw Amwythig, gwirodau, bragodau brig, pob llyn, bara gwyn a gwin, a'i gig, a'i dân i'w gegin. Pebyll y beirdd pawb lle bo, pe beunydd caiff pawb yno. A gwraig orau o'r gwragedd, gwyn 'y myd o'i gwin a'i medd! Merch eglur llin marchoglyw, urddol hael o reiol ryw. A'i blant a ddeuant bob ddau, nythaid teg o benaethau. Anfynych iawn fu yno weled na chlicied na chlo, na phorthoriaeth ni wnaeth neb, ni bydd eisiau budd oseb, na gwall, na newyn, na gwarth, na syched fyth yn Sycharth. Gorau Cymro tro trylew Biau'r wlad, lin Bywer Lew, gŵr meingryf, gorau mangre, a phiau'r llys; hoff yw'r lle.
Trech wyt na Christ yng ngwlad y Cristion, Bwdha'n yr India, hwnt i'r wendon; Arafia anial a ry'i chalon, Nid i Fahomet, ond i Famon. Cyfled yw dy gred â daear gron, Tery ffiniau tir a phennod ton; Hyd yr êl yr hylithr awelon, Hyd y tywyn haul, duw wyt yn hon.
Llyma haf llwm i hoywfardd, a llyma fyd llwm i fardd. E'm hybeiliawdd, gawdd gyfoed, am fy newis mis o'm oed. Nid oes yng Ngwynedd heddiw na lloer, na llewych, na lliw, er pan rodded, trwydded trwch, dan lawr dygn dyn loer degwch. Y ferch wen o'r dderw brennol, arfaeth ddig yw'r fau i'th ôl. Cain ei llun, cannwyll Wynedd, cyd bych o fewn caead bedd, f'enaid, cyfod i fyny, egor y ddaearddor ddu, gwrthod wely tywod hir, a gwrtheb f'wyneb, feinir. Mae yman, hoedran hydraul, uwch dy fedd, huanwedd haul, ŵr prudd ei wyneb hebod, Llywelyn Goch, gloch dy glod. Udfardd yn rhodio adfyd ydwyf, gweinidog nwyf gwŷd. Myfi, fun fwyfwy fonedd, echdoe a fûm uwch dy fedd yn gollwng deigr llideigrbraff ar hyd yr wyneb yn rhaff. Tithau, harddlun y fun fud, o'r tewbwll ni'm atebud. Tawedog ddwysog ddiserch, ti addawsud, y fud ferch, fwyn dy sud, fando sidan, f'aros, y ddyn loywdlos lân, oni ddelwn, gwn y gwir, ardwy hydr, o'r deheudir. Ni chiglef, sythlef seithlud, air ond y gwir, feinir fud, iawndwf rhianedd Indeg, onid hyn, o'th enau teg. Trais mawr, ac ni'm dawr am dŷ, torraist amod, trist ymy. Tydi sydd, mau gywydd gau, ar y gwir, rywiog eiriau, minnau sydd, ieithrydd athrist, ar gelwydd tragywydd trist. Celwyddog wyf, cul weddi, celwyddlais a soniais i. Mi af o Wynedd heddiw, ni'm dawr pa fan, loywgan liw; fy nyn wyrennig ddigawn, pe bait fyw, myn Duw, nid awn. Pa le caf, ni'm doraf, dioer, dy weled, wendew wiwloer, ar fynydd, sathr Ofydd serch, Olifer, yr oleuferch? Llwyr y diheuraist fy lle, Lleucu, deg waneg wiwne, riain wiwgain oleugaen, rhy gysgadur 'ny mur maen. Cyfod i orffen cyfedd i edrych a fynnych fedd, at dy fardd, ni chwardd ychwaith erot dalm, euraid dalaith. Dyred, ffion ei deurudd, i fyny o'r pridd-dŷ prudd. Anial yw ôl camoleg, nid rhaid twyll, fy neudroed teg, yn bwhwman rhag annwyd ynghylch dy dŷ, Lleucu Llwyd. A genais, lugorn Gwynedd, o eiriau gwawd, eiry ei gwedd, llef drioch, llaw fodrwyaur, Lleucu, moliant fu it, f'aur; â'r genau hwn, gwn ganmawl, a ganwyf, tra fwyf, o fawl, f'enaid, hoen geirw afonydd, fy nghariad, dy farwnad fydd. Cymhennaidd groyw loyw Leucu, cymyn f'anwylddyn fun fu: ei henaid, grair gwlad Feiriawn, i Dduw Dad, addewid iawn; a'i meingorff, eiliw mangant, meinir i gysegrdir sant; dyn pellgŵyn, doniau peillgalch, a da byd i'r gŵr du balch; a'i hiraeth, cywyddiaeth cawdd, i minnau a gymannawdd. Lleddf ddeddf ddeuddawn ogyfuwch, Lleucu dlos, lliw cawod luwch, pridd a main, glain galarchwerw, a gudd ei ddeurudd, a derw. Gwae fi drymed y gweryd a'r pridd ar feistres y pryd! Gwae fi fod arch i'th warchae! A thŷ main rhof a thi mae, a chôr eglwys a chreiglen a phwys o bridd a phais bren. Gwae fi'r ferch wen o Bennal, breuddwyd dig briddo dy dâl! Clo dur derw, galarchwerw gael, a daear, deg dy dwyael, a thromgad ddôr, a thrymgae, a llawr maes rhof a'r lliw mae, a chlyd fur, a chlo dur du, a chlicied; yn iach, Leucu!
Y seren y sy arwydd ydd â sais heddyw oi swydd Stella Cometa o'r gwin gwawr lliwys o'r gorllewin pa waeth y byd post oi Ben sy waith siriol saith seren? Byd enbyd uwch ben dinbych llun draig wrth orllewin drych llun Ell o'r lluniau allan llun cleddau fal Tonnau tan Sierion am y seren oedd yn treuthy tair o Ieithoedd mae noddfa lle mae'n addfed oed Crist er pan brynwyd Cred M:V.c meddant mowddwy XV a chwe X a dwy Rhyfedd ar gyfnod gwir hoen alaeth hyn a welir. ar ol hyn araul hynod agos ini geisio nôd, fo a 'r marchog ir ogof a dyfod a'n cyfnod cof lle nid el llew nau dau draw i ogof y dreigiau yno trig meddig im iaith deirnos mewn duffos diffaith ef yw'r llew ofwy yw'r lles o daw allan oi dylles llew du anwyl llu danoch y ceiliog hardd ar clog coch yr hwn y medd yr henwaed a ynill grym i holl gred ai arwydd yw herwydd iaith y seren gymesurwaith. am un pwynt y mae'n y pen yma heuriad y maharen y pymthegfed o fedi y try'r haul oi nattur hi Rhyfelau fal dagrau dur a gwriadau rhwng brodur, er da, mab a ladd ei dad brwydr ddull bryd ar ddillad y gwyllied hwy a gollir blin yw'r gwaith o blaenia'r gwir. Preladiaid o sgotiaid gant am y gair a ymgurant Lwmbardiaid Twrkiaid mewn taith a oresgyn rawysgwaith, a'r Pegwns rhag aliwns gwir (gofidiaith) a gyfodir. Gwyr y wlad mae'n gad gall a diria o du arall Eryr du a gair ar don gwae filoedd o'r gofalon o Galais y daw'r gelyn gwan yw'n iaith a gwenwyn ynn o dduw pam na weddiwn! rhag y byd anhyfryd hwn, Hir yw'r oes a Herwr wyf, os Rhyhir nas arhôwyf. Blwyddyn hir i ble 'ddâ 'n hedd yw un awr o anwiredd Gwyn-fŷd gwae ni y gwanfeirdd gweddill y byd, gwae ddull beirdd Gwyn fyd trin ganfod trwch gwn trwyddo gan tor heddwch gofun mab ag ofni mon ir nordd o ran y werddon e ddaw chware a ddechreuwyd draw'n llys aderyn llwyd Torri bargod tir Byrgwyn mae yn waeth i maeth am hyn mae'r wreichionen hen yn hwyr yn mygu 'n ei magwyr. nid a'n hwyr ni ad henau oni weler yn olau ni wyl Inglond 'n ol anglais wedi'r sant benadur sais o daw r 'llyg hyd y llan ai glog aur i gil Garan o daw ef wedi y daith dialedd, nid a eilwaith fo ddaw drwy ffydd llawenydd lle yr un neidr a roen dre Eryr draw a ddaw yn dda od a eilwaith nid wyla
Gydag un a geidw Gwynedd y cawn ar lan Conwy'r wledd abad tros wythwlad y sydd Aberconwy barc gwinwydd arglwydd yn rhoi gwledd yn rhad arfer ddwbl ar fwrdd abad powdrau yn nysglau y naill a'r oraits i rai eraill. Conwy rhyd dyffryn llw caf win ffres Glyn Grwst a glan Gaer Awstin glyn gwyrdd y galwynau gwin tri phwys cegin y tywysog troi mae'r gwaith trwm ar ei gog tai aml am win temlau medd trestl a bwtri osgedd ar ei winoedd ar unwaith yno bu ben am bob iaith Ple cyrchwn sesiwn y saint? Gydag ef a'i gyd gwfaint gwŷr ynrhif gwerin Rhufain gwyn a rhudd yw gynau rhain Os gwyn ei fynwes a'i gob o'r un wisg yr â'n esgob. Fe âi'r mab dan fur a main be'i profid yn bab Rhufain. Gwaith blin ac anoethineb ymryson oll am ras neb hwynthwy mil o renti mân yntau fynnai rent Faenan. Mae ar wyneb Meirionnydd blaid i'r gŵr fel blodau'r gwŷdd. Hyder Lewys Amhadawg am erchi rhoi march yrhawg milwr rhwng Maelor a Rhos Tegaingl ei geraint agos a'i ddewis erbyn mis Mai merch deg a march a'i dygai. Trem hydd am gywydd a gais trwynbant yn troi'n ei unbais ffroen arth a chyffro'n ei ên ffrwyn a ddeil ei ffriw'n ddolen ffriw yn dal ffrwyn o daliwn a'i ffroen gau fal ffoen y gwn llygaid fal dwy ellygen llymion byw'n llamu'n ei ben dwyglust feinion aflonydd dail saets wrth ei dâl y sydd trwsio fal golewo glain y bu wydrwr ei bedrain drythyll ar bedair wythoel gwreichionen o ben pob hoel ei flew fal sidan newydd a'i rawn ar liw gwawn y gwŷdd sidan ym mhais ehedydd siamled yn hws am lwdn hydd Dylifo heb ddwylo'dd oedd. Cnyw praffwasg yn cnoi priffordd cloch y ffair ciliwch o'i ffordd. Ei arial a ddyfalwn i elain coch o flaen cŵn. Nwyfawl iawn anifail oedd yn ei fryd nofio'r ydoedd. Nid rhaid er peri neidio rhoi dur fyth ar ei dor fo. Dan farchog bywiog di-bŵl ef a wyddiad ei feddwl llamu draw lle mwya drain llawn ergyd yn Llan Eurgain. O gyrrir draw i'r gweirwellt ni thyr a'i garn wyth o'r gwellt. Ystwyro cwrs y daran a thuthio pan fynn'n fân bwre naid i'r wybr a wnâi ar hyder yr ehedai. Draw os gyrrwn dros gaered gorwydd yr arglwydd a red dyrnfur yw'n dirwyn y fron deil i'r haul dalau'r hoelion. Gwreichion a gair o honyn gwiniwyd wyth bwyth ymhob un. Sêr neu fellt ar sarn a fydd ar godiad yr egwydydd ail y carw olwg gorwyllt a'i draed yn gwau drwy dân gwyllt. Neidiwr dros afon ydoedd naid yr iwrch rhag y neidr oedd. Oes tâl am y sut elain amgen na mawl am gnyw main? Mae'n f'aros yma forwyn ferch deg pe bai farch i'w dwyn. Gorau 'rioed gair i redeg march da i arwain merch deg.
Can nos daed, cynnes d'adail, Cai Hir y coed ir a'r dail. Canol yr haf wyd, Ddafydd, coedwr dewr cyhyd â'r dydd. Cryfder a chrafanc Siancyn, caregog lys, craig y glyn. Dy gastell ydyw'r gelli, derw dôl yw dy dyrrau di. Cynnydd ar geirw Nanconwy, cerdd a saif, cei urddas hwy. Glanaf y medrud, Ddafydd, gerddwriaeth, herwriaeth hydd; glain nod ar wŷr, glân ydwyd, gloyn Duw ar bob galawnd wyd. Dy stad a'th glod yw dy stôr, Dafydd, ŵyr Ddafydd, Ifor; anturwr ar filwriaeth y'th farnwyd, ac nid wyd waeth; ni wnaeth Rolant fwy antur no thydi, na wnaeth, â dur. Pan fo sôn am ddigoniant, dy roi'n uwch pob dewr a wnânt; o'r campau ym mhob neuadd y'th roir yr eilwaith o radd. Pand un o filwyr Llŷr llwyd, paun o frwydr, Penfro, ydwyd? Nai wyd, Ddafydd, loywrudd lain, i'r ewythr o'r Mastr Owain; bonedd yw d'anrhydedd di, brodorion hirion Harri. Rhoed yt air, rhediad hiroes, Hwnt, Arglwydd Rhismwnt a'i rhoes. O'r hynaif gorau'r hanwyd - o Rys Gethin - Elffin wyd; Absalon ym Meirionnydd a swyddog i'r gog a'r gwŷdd; ŵyr Feirig, rhag cynnig cam, a Chynfyn oedd eich henfam. Caredig i'r ceirw ydwyd, câr i'r Iarll, concwerwr wyd; tithau, gleddau'r arglwyddi, tëyrn wyd yn ein tir ni. Mae yt Wynedd yn heddwch, a phlaid yn y Deau fflwch. Gwylia'r trefydd, cynnydd call, a'r tyrau o'r tu arall. Da yw secwndid y dydd, gwell, ŵyr Cadell, yw'r coedydd. Da yw ffin a thref ddinas, gorau yw'r glyn a'r graig las; da oedd bardwn dydd bwrdais, ac nid oedd waeth saeth rhag Sais; cerwch gastell y gelli, cerwch wŷr a'ch caro chwi. Cadw'r dref a'r coed a'r drws, cadw batent Coed-y-betws. Wyth ugain câr i'th ogylch, wyth gant a'th garant i'th gylch, wyth gad, myn Pedr, a fedri, wyth goed, a Duw a'th geidw di.
Gwelwn echrysa golwg, Gwael iawn ddrych y galon ddrwg: Calon afradlon o fryd, Annuwiol heb ei newid: Calon yw mam pob cilwg, An-noeth drefn, a nyth y drwg; Drwg ddi-obaith, draig ddiball, Pwy edwyn ei gwŷn a'i gwall? Effaith y cwymp, a'i ffrwyth cas, A luniodd pob galanas; Grym pechod yn ymgodi, A'i chwantau fel llynnau lli; Glennydd afonydd y fall, Dengys bob nwydau anghall; Dîg-ofid yn dygyfor, Tân a mŵg, fel tonnau môr: Uffern yw hon, o'i ffwrn hi Mae bariaeth yma'n berwi: Ysbyty, llety pob llid, Gwe gyfan gwae a gofid; Trigfa pob natur wagfost, Bwystfilaidd 'nifeilaidd fost: Treigle a chartref-le trais, Rhyfeloedd, a phob rhyw falais; Rhial pob an-wadal wŷn, Ty ac aelwyd y gelyn. Meirch, a chwn, a moch annwn, Sy'n tewhau yn y ty hwn, Seirff hedegog mewn ogo, A heigiau dreigiau blin dro. Pob lleisiau, arw foesau'r fall, Sy'n dwad i swn deall; Swn t'ranau, sain trueni, Swn gofalon greulon gri: Melin wynt, yn malu'n wâg, Rhod o agwedd rhedeg-wag; A'i chocys afaelus fôn, Yn troi'u gilydd trwy'n galon; Drylliad, ag ebilliad bach, Y maen isaf, mae'n hawsach, Na dryllio, gwir bwyllo i'r bon, Ceulaidd, drygioni calon, C'letach a thrawsach ei thrin, Mewn malais, na maen melin. Llais hen Saul, a llys hwn sydd, Fan chwerw, o fewn ei chaerydd. Ni all telyn a dyn doeth, Clywn, ennill calon annoeth. Och! ni byth, achwyn y bo'n, Wrth goelio, fod fath galon: Gweddiwn, llefwn rhag llid, Yn Nuw, am gael ei newid. Nid oes neb a'i hadnebydd, Ond gain y Tad, a'i rad rydd; A'n gair os daw, gwiw-ras dôn, A dry'r golwg drwy'r galon: A drwg calon draw cilio, Amen fyth, mai hynny fo.
Wele'r hwyr a'r haul a'i rin Yn lliwio y gorllewin, Y nen mewn gwrid ennynawl A'r môr yn darnguddio'r gwawl; Y don lariaidd dan loywrid, Awel leddf heb chwa o lid Yn hebrwng teyrn yr wybren I wely'r lli islaw'r llen. Y lloer a'i mantell eirian, A'i gemwisg ddisgleirwisg lân, Di-wres frenhines y nef Arweiniai gôr y wiwnef; A'r sêr yn rhesi arian I gyd yn disgleirio'n gàn: Holl len y ffurfafen faith Oedd lawen hardd oleuwaith.
© Cowbois Ceibwr 2025